Mae mesurau llym mewn grym yng ngogledd yr Eidal yn sgil pryderon am ledaeniad haint y coronavirus yno.

Mae dau wedi marw a nifer cynyddol o bobl wedi mynd yn sâl, a’r rhain heb fod â chysylltiad uniongyrchol â ffynhonnell y firws yn Tsieina.

Mae awdurdodau lleol mewn trefi yn Lombardia a Veneto wedi gorchymyn cau ysgolion, busnesau a thai bwyta, a chanslo digwyddiadau chwaraeon ac offerennau.

Mae Maer Milan hefyd wedi cau swyddfeydd cyhoeddus prifddinas busnes y wlad.

Mae cannoedd o bobl a ddaeth i gysylltiad ag amcangyfrif o 54 o bobl a gafodd eu heintio yn yr Eidal yn cael eu hynysu i ddisgwyl canlyniadau profion.

Er bod dau o bobl oedrannus a oedd wedi dal y firws wedi marw, nid yw’n glir os mai hyn oedd achos eu marwolaeth.

Roedd newyddion ychydig gwell o Rufain, lle’r oedd Eidalwr a oedd wedi profi’n bositif i’r firws bythefnos yn ôl ac ymwelydd o Tsieina a oedd yn wael, wedi profi’n negyddol.