Mae Llys Cyfansoddiadol Gwlad Thai wedi gwahardd y blaid wleidyddol The Future Forward Party (FFP) am dorri rheolau cyllid etholiadol.

Fe wnaeth y llys hefyd wahardd 16 o arweinwyr FFP rhag ymwneud â gwleidyddiaeth am ddeng mlynedd.

FFP oedd y drydedd plaid fwyaf yng Ngwlad Thai.

Ond dyfarnodd y llys fod ei harweinydd Thanathorn Juangroongruangkit wedi torri rheolau cyllid etholiadol wrth roi benthyg 191.2 miliwn-baht (£4.5m) i’w blaid yn ystod yr ymgyrch wleidyddol y llynedd.

Cafodd y blaid ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl, ac enillodd yr FFP 76 o seddi yn yr etholiad yn 2019.

Fis Ionawr eleni, bu ymgais aflwyddiannus i geisio gwahardd y blaid ar ôl eu cael yn ddieuog o geisio dymchwel y frenhiniaeth – honiadau y mae FFP yn gwadu’n gryf.