Mae storm sydyn wedi achosi damwain gyda 200 o gerbydau yn pentyrru ar ei gilydd ar Briffordd 15 yn nhalaith Quebec yn Canada ddoe.

Yn ôl yr heddlu mae 12 o bobl wedi eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Francois Bonnardel: “Roedd pobl yn gyrru, roedd gwyntoedd cryfion… ac, yn sydyn, doedd dim modd i’r gyrwyr weld unrhyw beth.

“Arweiniodd hyn at y ddamwain, a‘r ceir bentyrru ar ben ei gilydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod tua 50 o gerbydau wedi llwyddo i yrru i ffwrdd o’r gwrthdrawiad ac y byddai nawr angen tynnu 75 o gerbydau eraill o safle’r ddamwain.