Cafodd naw o bobol eu saethu’n farw ac o leiaf bump arall eu hanafu mewn ymosodiadau ar ddau far Shisha yn nhref Hanau yn ne-orllewin yr Almaen neithiwr.

Yn ddiweddarach, cafodd dyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am am y saethu angheuol ei ddarganfod yn farw yn ei gartref.

Cadarnhaodd Heddlu’r Almaen iddyn nhw ddod o hyd i ddau gorff mewn fflat yn ardal Kesselstadt, ac “mae’n debygol iawn” mai un o rhain oedd yr ymosodwr.

Nid yw’r heddlu yn chwilio am neb un arall yn ymwneud â’r digwyddiad.

Doedd dim modd i’r heddlu fanyli yn bellach ar y digwyddiad, na chymhelliad posib yr ymosodwr.

Dywedodd Maer tref Hanau: “Roedd hon yn noson ofnadwy, a fydd yn sicr yn aros yn y cof am hir a byddwn yn ei gofio gyda thristwch.”