Mae o leiaf 20 o ffoaduriaid wedi cael eu sathru i farwolaeth mewn gwersyll yn Niger.

Roedden nhw’n derbyn bwyd a nwyddau hanfodol yn y gwersyll sy’n benodol ar gyfer pobol sydd wedi ffoi o Nigeria o ganlyniad i Boko Haram.

Mae Boko Haram wedi lladd degau o filoedd o bobol yn Nigeria.

Mae lle i gredu mai pobol oedd heb dderbyn bwyd a nwyddau ddydd Sul (Chwefror 16) oedd wedi achosi’r rhuthr oedd wedi arwain at bobol yn cael eu sathru.

Roedd 15 o fenywod a phump o blant ymhlith y rhai a gafodd eu sathru i farwolaeth.

Cafodd 16 o bobol eraill eu hanafu.