Mae corff newyddiadurwr wedi cael ei ddarganfod wedi’i adael mewn camlas ym Mhacistan ychydig oriau’n unig ar ôl iddo ddiflannu ar y ffordd i’r gwaith ddoe (dydd Sul, Chwefror 16).

Yn ôl ei deulu, cafodd Aziz Memon, oedd yn 56 oed, ei ladd mewn modd creulon ond dydyn nhw ddim yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol.

Roedd yn gweithio fel gohebydd a dyn camera i orsaf deledu leol yn nhalaith Sindh yn ne-ddwyrain Pacistan.

Dywed Mohammad Faroog, pennaeth yr heddlu, fod ei gorff wedi cael ei ddarganfod mewn camlas ym mhentref Mehrabpur a bod ymchwiliad ar y gweill.

Yn ôl ei frawd, Abdul Hafeez, roedd Aziz Memom wedi derbyn bygythiadau y llynedd ar ôl iddo adrodd bod gwleidydd wedi talu pobol leol i fynychu rali wleidyddol un o’i wrthwynebwyr.

Gwlad beryglus i newyddiadurwyr

Mae Pacistan yn lle peryglus i newyddiadurwyr ac anaml iawn y mae pobol sy’n gyfrifol am ymosod arnyn nhw yn cael eu cosbi yno.

Mae amddiffynwyr hawliau dynol, ymgyrchwyr a newyddiadurwyr wedi cael eu herlid yn y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywed newyddiadurwyr eu bod yn wynebu sensoriaeth fwy cyfrwys ond yr un mor greulon wrth i wasanaethau diogelwch geisio diddymu unrhyw sylw negyddol gan y cyfryngau.

Mae nifer o newyddiadurwyr wedi cael eu curo a’u dedfrydu i garchar wrth gesio sicrhau cyfryngau rhydd.