Mae arweinydd Sinn Fein, Mary Lou McDonald wedi gofyn am gyfarfod gyda Fianna Fail i drafod ffurfio llywodraeth yn Iwerddon.

Fe fydd plaid seneddol Fianna Fail yn cyfarfod yn hwyrach heddiw, ond mae’r arweinydd, Micheal Martin, wedi dweud yn barhaus na fyddai’n mynd i glymblaid gyda Sinn Fein.

Fianna Fail a enillodd y nifer mwyaf o seddau gyda 38, ond enillodd Sinn Fein 37 o seddau a’r gyfran uchaf o bleidleisiau dewis cyntaf yn yr etholiad cyffredinol ddydd Sadwrn.

Mae’r Taoiseach presennol, Leo Varadkar, eisoes wedi dweud ei fod yn disgwyl bod yn arweinydd yr wrthblaid yn y senedd nesaf – a fyddai’n awgrymu clymblaid debygol rhwng Fiannai Fail a Sinn Fein.

Meddai Sinn Fein mewn datganiad:

“Mae Sinn Fein â’u bryd ar sefydlu llywodraeth a fyddai’n newid pethau. Rydym nawr yn dymuno cyfarfod â Fianna Fail, ac ymhellach ymlaen gyda Fine Gael. Cam cyntaf y broses honno yw i’n harweinydd Mary Lou McDonald gyfarfod ag arweinydd Fianna Fail, Michael Martin.”