Mae arweinydd y dalaith yn Tsieina sydd wedi cael ei tharo galetaf gan achosion coronavirus wedi cael y sac gan lywodraeth y wlad.

Fe fydd Ying Yong, cyn-faer Shanghai, yn gweithredu fel arweinydd y blaid gomiwnyddol yn Hubei lle cafodd y firws Covid-19 ei ddarganfod ddiwedd y llynedd.

Mae dau uwch-swyddog arall yn Hubei wedi cael eu sacio yng nghanol beirniadaeth am y ffordd maen nhw wedi ymateb i’r salwch sydd wedi lladd mwy na 1,350 a heintio miloedd yn fwy.

Mae cyfryngau’r wlad wedi adrodd hefyd am lu o rai eraill sydd wedi cael eu gwahardd o’r blaid gomiwnyddol oherwydd ffaeleddau’n ymwneud â’r epidemig.

Bellach, mae dros 60 miliwn o bobl yn y wlad sy’n byw yn dinasoedd a gafodd eu taro galetaf yn cael eu gwahardd rhag gadael y dinasoedd hynny.

Llywodraeth yn ‘hyderus’

Er hyn i gyd, dywed llysgennad Tsieina i’r Cenhedloedd Unedig fod y llywodraeth yn hyderus eu bod yn ennill y frwydr yn erbyn y firws.

Mewn cyfarfod o’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, dywedodd Zhang Jun fod lleihad wedi bod yn nifer yr achosion newydd y tu hwnt i Hubei am wyth niwrnod yn olynol, a bod y nifer o achosion o wellâd o’r salwch wedi codi i dros 5,000.

Mae’n galw ar wledydd eraill i weithio i gyda llywodraeth a phobl Tsieina i rannu gwybodaeth, profiad a thechnoleg er mwyn mynd i’r afael â’r heriau.