Mae Joseph Shabalala, sylfaenydd ac aelod gwreiddiol o’r grŵp Ladysmith Black Mambazo, wedi marw’n 78 oed.

Bu farw yn yr ysbyty yn Pretoria, yn ôl ei deulu.

Ymhlith uchafbwyntiau’r grŵp mae cyd-ganu â Paul Simon ar ei albwm Graceland, a pherfformio yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Daw’r newyddion am ei farwolaeth 30 o flynyddoedd ers rhyddhau Nelson Mandela o’r carchar.

Doedd Joseph Shabalala ddim wedi canu gyda’r grŵp ers 2014, ond roedd yn dal i fynychu eu cyngherddau.

Dywed rheolwr y grŵp eu bod nhw’n “torri’u calonnau” yn dilyn ei farwolaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw ddirwyn eu taith i ben yn gynnar er mwyn dychwelyd i Dde Affrica.