Fianna Fail yw plaid fwyaf senedd nesaf Iwerddon, gan guro Sinn Fein o drwch blewyn.

Enillodd plaid Micheal Martin 38 o seddi, gyda Sinn Fein ar 37 wedi dau ddiwrnod o gyfrif.

Cafodd plaid y Taoiseach Leo Varadkar, Fine Gael un o’r canlyniadau gwaethaf mewn hanes wrth golli 12 sedd – i lawr o 47 i 35.

Ond Sinn Fein heb os sydd gan fwyaf i’w ddathlu wrth iddynt chwalu system dwy blaid Iwerddon yn deilchion.

 Clymblaid?

Mae’r tair plaid fwyaf yn bell oddi wrth yr 80 sedd sydd ei hangen i ffurfio mwyafrif yn y Dáil.

Felly oni bai bod etholiad arall yn cael ei gynnal, mae rhyw fath o glymblaid yn anochel.

Mae sawl un yn darogan mai clymblaid rhwng Fianna Fail, Sinn Fein a’r Blaid Werdd, wnaeth ennill 12 sedd, sydd fwyaf tebygol.

Dywed Paschal Donohoe, Gweinidog Cyllid Fine Gael, nad oes gan unrhyw blaid hawl awtomatig i lywodraethu.

“Mae’n glir nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar gynrychioli pobl Iwerddon,” meddai.

Y canlyniad terfynol oedd:

Fianna Fáil 38

Sinn Fein 37

Fine Gael 35

Gwyrddion 12

Llafur 6

Sosialwyr Democrataidd 6

Solidarity/People Before Profit 5

Aontu 1

Independents4Change 1

Annibynnol 19.