Mae Sinn Fein wedi derbyn y nifer fwyaf o’r pleidleisiau dewis cyntaf hyd yn hyn yn yr etholiad cyffredinol yn Iwerddon, ond nid oes gan yr un blaid ddigon o seddi i ennill mwyafrif.

Mae’r cyfri yn parhau heddiw (Dydd Llun, 10 Chwefror) yn Iwerddon mewn 26 o etholaethau i lenwi’r 82 sedd sydd ar ôl.

Mae Sinn Fein wedi ymddangos fel y blaid fwyaf poblogaidd yn y wlad, gan sicrhau y rhan fwyaf o’r pleidleisiau dewis cyntaf a chyrraedd brig y polau yn y rhan fwyaf o’r etholaethau ar draws y wlad, sydd fel arfer yn gweld Fianna Fail a Fine Gael yn ennill y blaen.

“Mae Sin Fein  am weithio i greu ‘llywodraeth y bobol’ y bydd pobol Iwerddon yn medru uniaethu a nhw ar ôl gwneud y cynnydd hanesyddol hwn yn yr Etholaeth Gyffredinol yma,” meddai arweinydd Sinn Fein, Mary Lou McDonald.

Addawodd i daclo problemau tai ac iechyd, a dod a bywyd newydd i weinyddu cyhoeddus, a’u bod yn “barod i drafod ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyflawni rhaglen i’r Llywodraeth.”

Beth nesaf?

Er hyn, Fianna Fail sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau’r mwyaf o seddi, yn bennaf oherwydd bod Sinn Fein wedi methu sicrhau digon o ymgeiswyr fyddai’n gwneud y mwyaf o’u hymchwydd sydyn yn y polau.

Ond ni fydd yr un blaid yn dod yn agos i sicrhau digon o seddi i ennill mwyafrif yn Senedd y Dail, felly mae rhai yn barod wedi dechrau ystyried llywodraeth glymblaid.

Ddydd Sul, Chwefror 9, gwrthododd arweinydd Fianna Fail, Michael Martin ailadrodd ei addewid cyn yr etholaeth i beidio a chydweithio gyda Sinn Fein.

Yn nes ymlaen, rhybuddiodd pawb i beidio rhoi’r drol o flaen y ceffyl wrth ddadansoddi ei sylwadau fel arwydd fod cynghrair rhwng y pleidiau yn ddewis mae’n ei ystyried.

Y canlyniadau hyd yn hyn

Sinn Fein- 24.5%

Fianna Fail – 22.2%

Fine Gael- 20.9%