Cafodd dau o bobol eu lladd ar safle milwrol pan ddechreuodd yr ymosodiad ond cafodd rhagor eu lladd wrth iddo ffoi a theithio trwy ganolfan siopa.
Roedd e’n postio negeseuon am ladd pobol ar ei dudalen Facebook yn ystod yr ymosodiad.
Fe gymerodd 16 awr i’r heddlu reoli’r sefyllfa yn ninas Nakhon Ratchasima – neu Korat – yng ngogledd-ddwyrain y wlad.
Yn ôl Prayuth Chan-ocha, prif weinidog y wlad, mae’r digwyddiad hwn yn “ddi-gynsail”.