Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi diswyddo dau swyddog oedd wedi rhoi tystiolaeth yn ei erbyn yn ystod yr achos uchelgyhuddo.

Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dial ar Alexander Vindman a Gordon Sondlond ddeuddydd ar ôl i’r llys ei gael yn ddieuog o bwyso ar yr Wcráin am wybodaeth am y Democrat Joe Biden.

Cafodd Alexander Vindman ei dywys o’r Tŷ Gwyn a hynny am “ddweud y gwir” yn ôl ei gyfreithiwr.

Daw’r diswyddiad ddiwrnod ar ôl i’w efaill, y cyfreithiwr Yevgeny Vindman, golli ei swydd yntau hefyd.

Mae’r ddau wedi cael eu symud i swyddi eraill yn y lluoedd arfog.

Roedd Gordon Sondland wedi bod yn llysgennad i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Democratiaid bellach yn cyhuddo’r arlywydd o “ofni’r gwirionedd” a’r Gweriniaethwyr o “gelu” yr hyn roedd e wedi bod yn ei wneud.