Mae’r Arlywydd Michael D Higgins wedi bwrw ei bleidlais yn etholiad cyffredinol Iwerddon, sy’n cael ei ystyried yn un o etholiadau agosa’r wlad ers rhai blynyddoedd.

Dyma’r tro cyntaf i etholiad cyffredinol Iwerddon gael ei gynnal ar ddydd Sadwrn ers dros ganrif.

Mae Sinn Fein yn herio’r ddwy brif blaid, Fianna Fail a Fine Gael, ac mae’r Taoiseach Leo Varadkar yn wynebu cryn her i’w arweinyddiaeth.

Mae’r polau’n rhoi ei blaid, Fine Gael, yn drydydd ar hyn o bryd gydag 20% o’r bleidlais, o’i gymharu â 25% i Sinn Fein a 23% i Fianna Fail.

Ond hyd yn oed pe bai Sinn Fein yn ennill yr etholiad, does dim sicrwydd mai Mary Lou McDonald fyddai’n arwain y llywodraeth nesaf.

Dim ond 42 o ymgeiswyr sydd gan y blaid, sydd ymhell o’r mwyafrif sydd ei angen o blith 160 o seddi’r Dail, neu’r Senedd.

Y canlyniad mwyaf tebygol yw mai clymblaid fydd yn arwain y wlad, sy’n golygu y gallai Sinn Fein ei gael yn anodd sicrhau digon o gefnogaeth i lywodraethu, gyda’r ddwy blaid arall eisoes yn dweud na fydden nhw’n fodlon cydweithio.

Mae’n golygu, felly, y gallai Leo Varadkar aros wrth y llyw neu y gallai Micheal Martin ddod yn brif weinidog – neu y gallai Clymblaid Fawr gael ei ffurfio gan y tair plaid gyda’i gilydd.