Mae dros 130 o ffigurau blaenllaw’r byd celf, gwleidyddiaeth a chyfryngau’r Almaen wedi arwyddo apêl sy’n galw am ryddhau sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange o’r carchar.

Ymysg y bobl sydd wedi arwyddo’r apêl mae’r cyn is-ganghellor Sigmar Gabriel, nifer o gyn-weinidogion ffederal a Gunter Verheugen, sef cyn-is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae’r apêl yn honni fod cadw Julian Assange yng ngharchar Belmarsh Llundain yn “drosedd ddifrifol” o hawliau dynol sylfaenol gan fynd ymlaen i honni bod ei iechyd yn “wirioneddol wael.”

“Hawliau dynol”

Mae Julian Assange yn disgwyl achos i’w estraddodi gan yr Unol Daleithiau dros weithgareddau WikiLeaks.

Mae’r apêl yn galw ar Lywodraeth Prydain i “ryddhau Julian Assange o’r carchar ar unwaith er mwyn iddo allu gwella o dan oruchwyliaeth feddygol a chael gweithredu ynghyd a’i hawliau dynol heb rwystr.”

Daeth yr apêl yn dilyn cyfarfod a drefnwyd gan yr elusen Humanade yn Llundain a gafodd ei fynychu gan gannoedd o bobl, gan gynnwys yr athro Nils Melzer, arbenigwr y Cenhedloedd Unedig ar artaith.

Rhybuddiodd Nils Melzer nad yw Julian Assange yn derbyn ei hawliau dynol a’i fod yn dioddef artaith seicolegol a allai arwain at ei farwolaeth.