Wedi wythnosau o ddadlau tanllyd, mae’r ymdrech i gael gwared ar yr Arlywydd Donald Trump wedi methu.

Cafodd dwy bleidlais eu cynnal ar ddiwedd yr achos o uchel gyhuddo ddoe (dydd Mercher Chwefror 5), a chafodd ei farnu’n ddieuog yn y ddwy achos.

Pleidleisiodd 52 o’r 100 Seneddwr ei fod yn ddieuog o gamddefnyddio grym, a phleidleisiodd mwyafrif o 53 yn erbyn cyhuddiad o rwystro’r Gyngres.

Fe wnaeth holl seneddwyr y Blaid Weriniaethol ac eithrio Mitt Romney, y cyn-ymgeisydd am yr arlywyddiaeth yn erbyn Barack Obama yn 2012, gefnogi Donald Trump.

Pe bai wedi ei gyhuddo’n euog yn un o’r ddau achos byddai Donald Trump wedi gorfod ildio’r awenau i’w Ddirprwy Arlywydd, Mike Pence.

Daeth y bleidlais yma yn sgil pleidlais o blaid y broses uchelgyhuddo yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr ym mis Rhagfyr.

Democratiaid yw’r mwyafrif yn y siambr honno, a Gweriniaethwyr yw’r mwyafrif yn y Senedd.