Mae dau weithiwr rheilffordd wedi cael eu lladd wrth i drên gyflym ddod oddi ar y cledrau yng ngogledd yr Eidal a tharo adeilad.

Roedd y trên yn teithio ar 180 milltir yr awr o Milan i Bologna pan wnaeth cerbyd yr injan ddod yn rhydd o’r cerbydau eraill tua 5.30 y tu allan i dref Lodi.

Aeth yr ail gerbyd oddi ar y cledrau hefyd, ond arhosodd y gweddill o’r cerbydau ar y cledrau.

Cafodd y gyrrwr a gweithiwr arall ar y trên eu lladd yn y gwrthdrawiad, a chafodd 27 o’r tua 30 o deithwyr ar y trên eu hanafu, gyda dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Parhau mae’r ymchwiliadau i achos y ddamwain.