Mae cannoedd o bobl wedi gorfod ffoi o’i tai a’u ffermydd rhag llifogydd yn ne Seland Newydd.

Dywedodd yr awdurdodau wrth drigolion trefi Gore, Mataura a Wyndham y dylen nhw ffoi ar unwaith, wrth i afonydd barhau i godi yn dilyn glaw trwm.

Mae cannoedd o dwristiaid wedi ffoi o Milford Sound ar ôl mynd yn gaeth yno’n gynharach yr wythnos hon pan wnaeth llifogydd rwystro mynediad i geir i’r ardal.

Cafodd y teulu Grenfell eu hachub ar ôl treulio noson mewn caban ar lwybr cerdded poblogaidd.

“Roedden ni’n poeni y byddai’r caban yn dechrau symud oherwydd roedd y dŵr yn gwthio yn erbyn y waliau i gyd,” meddai Tui Grefell.

“Felly mi ddaru ni dorri tyllau yn y waliau fel bod y dŵr yn gallu llifo drwy’r caban neithiwr.”

Daeth hofrennydd i achub y teulu bore ma (dydd Mercher, Chwefror 5).

Mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi bod y sefyllfa bellach yn argyfwng.