Fe fydd teyrngedau i Kobe Bryant, y cyn-chwaraewr pêl-fasged, yn ystod gêm bêl-droed Americanaidd fwya’r byd, y Super Bowl, heno (nos Sul, Chwefror 2).

Bydd Jennifer Lopez a Shakira yn perfformio yn ystod hanner amser y gêm rhwng y San Francisco 49ers a’r Kansas City Chiefs.

Ac mae’r ddwy yn dweud y byddan nhw’n talu teyrnged i’r dyn fu farw gyda’i ferch a saith o bobol eraill, mewn damwain hofrennydd yn Los Angeles yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Jennifer Lopez, fe fydd ei pherfformiad yn un “teimladwy”, ond dydy hi ddim wedi datgelu rhagor o fanylion.

Dywed Shakira y bydd ei pherfformiad hi a Jennifer Lopez yn dangos “sut mae unrhyw beth yn bosib”, gan “ail-ddiffinio deuoliaethau oedran, hil a chefndir”.