Swyddfa'r papur lleol
Mae trigolion tref yn yr Unol Daleithiau wedi eu synnu ar ôl i esgyrn person gael eu ffeindio mewn rhewgell mewn storfa.

Roedd honno’n cael ei rhentu gan ddyn sydd newydd farw yn 80 oed, siopwr oedd â’r enw o fod yn garedig a chyfeillgar.

Ond mae heddlu yn Lewiston, Maine, bellach yn ymchwilio i weld a oedd Frank Julian wedi lladd ei gariad 28 o flynyddoedd yn ôl ac wedi cadw ei chorff yn y rhewgell.

Roedd Kitty Wardwell, a oedd yn 29 oed ar y pryd, wedi diflannu yn 1983 ac roedd yr heddlu wedi cadw’r achos yn agored ers hynny.

Mae papur lleol y Lewiston Sun Journal yn llawn o ddyfyniadau gan bobol leol yn dweud pa mor garedig a chyfeillgar oedd Frank Julian.