Silvio Berlusconi
Mae Prif Weinidog yr Eidal wedi ymateb yn bigog i orchymyn gan yr Almaen a Ffrainc i reoli cyllid ei wlad yn well.
Yn ôl Silvio Berslusconi, ddylai’r ddwy wlad fawr ddim bod yn ceisio “dysgu gwersi” i’r Eidal gan ei gwthio i dorri’n ôl ar wario er mwyn rheoli ei dyledion.
Fe fydd Llywodraeth yr Eidal yn trafod y gorchymyn heddiw wrth i’r marchnadoedd ariannol gadw llygad barcud ar y datblygiadau.
Ofn
Yr ofn yw y gallai’r Eidal ddilyn Gwlad Groeg a gorfod gwneud cais am gymorth ariannol gan y gymuned ryngwladol.
Ond mae Silvio Berlusconi wedi mynnu fod pethau dan reolaeth ac y bydd yr Eidal yn talu’i ffordd erbyn 2013.
Mae pris cyfrannau hefyd wedi codi ar draws y byd, wedi eu sbarduno gan brynu a gwerthu cwmnïau yn yr Unol Daleithiau a chred bod gwledydd ardal yr Ewro yn gwneud mwy na’r disgwyl i sefydlogi’r drefn ariannol.