Yingluck Shinawatra (o'i thudalen Facebook)
Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd yn llifogydd Gwlad Thai bellach wedi codi i 366.

Ac mae’r Prif Weinidog, Yingluck Shinawatra, wedi rhybuddio y gallai effeithiau’r trychineb barhau am tua chwech wythnos arall.

Un o’r peryglon mawr yw fod dŵr o’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yn llifo trwy rannau eraill o’r wlad, gan gynnwys y brifddinas Bangkok.

Yno, er bod adroddiadau’n dweud bod lefel y dŵr yn sefydlogi, mae rhan o faes awyr wedi ei gau oherwydd y llifogydd gan olygu canslo nifer o deithiau mewnol.

Fe ddechreuodd y llifogydd yn ôl yn yr haf ac mae rhannau helaeth o’r wlad a miliynau o bobol wedi cael eu heffeithio.