Mae 21 o bobol bellach wedi marw ar ôl i losgfynydd ffrwydro yn Seland Newydd fis diwethaf, yn ôl yr heddlu.

Dywed Is Gomisiynydd yr heddlu John Tims bod person wedi marw nos Fawrth (Ionawr 28) yn yr ysbyty yn Auckland.

Dyw’r heddlu heb ryddhau enw’r person, ond mae disgwyl iddyn nhw wneud hynny wedi iddynt gysylltu â theulu’r dioddefwr.

Roedd yno 47 o bobol yn ymweld â White Island pan ffrwydrodd y llosgfynydd ar Ragfyr 9, gan ladd 13 o bobl yn syth a gadael dau ddwsin o bobl efo llosgfeydd difrifol.

Mae wyth o bobol wedi marw yn yr ysbyty yn Seland Newydd ac Awstralia yn yr wythnosau ers y ffrwydrad.