Mae gwyddonwyr yn rhybuddio y bydd hi’n cymryd misoedd i ddod â’r feirws coronavirus dan reolaeth – wrth iddo ladd 106 o bobol ledled y byd.

Fe fydd hi’n ddiwedd yr haf eleni cyn y bydd yr argyfwng yn arafu, meddai’r gwybodusion, wedi i’r creisis iechyd darddu yn Tsieina ac effeithio ar fywydau miloedd ar filoedd ar gyfandir Asia, yn benodol.

Fe ddaw’r rhybudd wrth i ymchwilwyr ddarogan fod y posibilrwydd o gael brechiad yn erbyn SARS ar y gorwel. Mae’r feirws hwnnw wedi lladd mwy na 4,500 o bobol.