Mae nifer y meirw o ganlyniad i’r firws coronavirus wedi codi i 80, yn ôl Comisiwn Iechyd Cenedlaethol Tsieina.

Cafodd 769 o achosion newydd eu cadarnhau ddydd Sul, gan ddod a’r cyfanswm o bobol sydd wedi’u heintio i 2,744.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi adrodd bod pum achos o’r firws yn Hong Kong a dau yn Macau.

Cafodd achosion eraill hefyd eu darganfod yng Ngwlad Thai, Taiwan, Siapan, De Corea, yr Unol Daleithiau, Fietnam, Singapore, Malaysia, Nepal, Ffrainc, Canada ac Awstralia.

Dywedodd Arlywydd Tsieina Xi Jinping bod y sefyllfa yn ddifrifol a bod y llywodraeth yn dwysau ei hymdrechion i gyfyngu ar deithio a dathliadau cyhoeddus. Yn y cyfamser mae staff meddygol ac offer wedi cael eu hanfon ar frys i Wuhan, canolbwynt y firws. Mae cyfyngiadau llym mewn lle yn y ddinas.

Mae’r firws wedi lledu yn ystod un o gyfnodau prysura’r flwyddyn yn Tsieina wrth i filiynau deithio ar draws y wlad i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Mae’r gwyliau yn dod i ben ddydd Iau.