Mae Kobe Bryant, un o’r chwaraewyr gorau yn hanes y byd pêl fasged, wedi cael ei ladd mewn damwain hofrennydd.

Bu farw ei ferch 13 oed, Gianna, hefyd yn y digwyddiad yng Nghaliffornia fore Sadwrn (Ionawr 25).

Roedd naw o bobol yn yr hofrennydd i gyd, gan gynnwys y peilot, ac fe fu farw pob un ohonyn nhw.

Dydy enwau’r bobol eraill fu farw ddim wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn.

Mae Adam Silver, comisiynydd yr NBA, prif gorff y byd pêl fasged, wedi talu teyrnged i’w “ddoniau rhyfeddol” a’i “ymrwymiad llwyr i ennill”.

Mae’n dweud hefyd ei fod e’n “un o’r chwaraewyr mwyaf rhyfeddol yn hanes y gêm”.

Gyrfa

Fe enillodd e bencampwriaeth yr NBA bump o weithiau, gwobr Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yr NBA, dwy fedal aur Olympaidd ac fe gafodd ei ddewis ymhlith tîm Sêr yr NBA 18 o weithiau.

Cafodd ei eni yn Philadelphia yn 1978 ac mae’n cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr gorau yn hanes y gêm.

Fe dreuliodd ei yrfa gyfan yn chwarae i’r Los Angeles Lakers, oedd wedi ennill pencampwriaeth yr NBA dair gwaith yn olynol rhwng 2000 a 2002, camp sydd heb ei hefelychu ers hynny.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yr NBA yn 2008, gan ennill yr NBA ddwywaith yn olynol yn 2009 a 2010, a chael ei enwi’n Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yn y ddwy gêm derfynol.

Roedd e’n drydydd ar restr prif sgorwyr erioed yr NBA tan nos Sadwrn, pan aeth LeBron James heibio’i gyfanswm pwyntiau.

Mae’n cael ei gofio am sgorio 81 pwynt mewn gêm yn erbyn y Toronto Raptors, yr ail fwyaf erioed.

Sgoriodd e 60 o bwyntiau yn ei gêm olaf cyn ymddeol yn 2016.

Rhoddodd yr LA Lakers y gorau i ddefnyddio’r rhifau ar gefn ei grysau bryd hynny wrth dalu teyrnged i’w yrfa ar y lefel uchaf am gynifer o flynyddoedd.

Roedd e hefyd yn aelod o garfan Olympaidd yr Unol Daleithiau yn 2008 a 2012, ac fe enillodd ffilm ‘Dear Basketball’, yr oedd e wedi ei hysgrifennu a’i lleisio, wobr Oscar.