Mae timau achub yn parhau i dynnu goroeswyr allan o rwbel yn dilyn daeargryn sydd wedi lladd 31 o bobol yn nwyrain Twrci.

Roedd y daeargryn yn mesur 6.8 ar raddfa Richter, ac fe wnaeth e anafu 1,556 o bobol.

Mae 45 o bobol wedi cael eu tynnu’n fyw o’r rwbel hyd yn hyn, yn ôl yr awdurdodau.

Ond mae’r amodau’n gwaethygu wrth i’r tymheredd ostwng i bum gradd selsiws o dan y rhewbwynt.

Mae’r timau achub yn canolbwyntio ar ardal Mustafa Pasa yn ninas Elazig a thref Sivrice.

Mae’r ardal wedi dioddef oddeutu 600 o ôl-gryniadau, wrth i ddaeargryn arall 4.3 ar raddfa Richter daro rhanbarth Puturge yn nhalaith Malatya.