Mae miloedd o bobol wedi ymgynnull yn Delhi Newydd i ddathlu Diwrnod Gweriniaeth India, sy’n dathlu’r diwrnod yn 1950 pan gafodd cyfansoddiad y wlad ei sefydlu.

Fe fu gorymdaith fawr yn y ddinas yn cynnwys plant, dawnswyr gwerin a’r fyddin.

Roedd yn ddathliad mawr hefyd o ddiwylliant y wlad.

Y gwestai arbennig eleni oedd Jair Bolsonaro, Arlywydd Brasil, a gafodd groeso swyddogol yn y palas arlywyddol gan yr Arlywydd Ram Nath Kovind a’r prif weinidog Narendra Modi.

Cafodd y digwyddiad ei wylio gan filiynau o bobol ar y teledu ar draws y wlad.