Mae dynes yn ei 40au yn yr ysbyty yn ninas Dulyn ar ôl i’r gwasanaethau brys ddod o hyd i gyrff tri o blant mewn eiddo.

Mae lle i gredu bod y ddynes yn fam i’r plant – dau fachgen a merch sydd o dan ddeg oed, ac mae’r heddlu wedi cadarnhau ei bod hi’n perthyn iddyn nhw.

Enwau’r plant yw Conor Darragh a Carla McGinley, ac maen nhw’n naw, saith a thair oed.

Dydy’r heddlu ddim yn cynnig eglurhad ar hyn o bryd, ond mae lle i gredu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.