Yn dilyn diwrnod tymhestlog yn y Senedd mae’r Democratiaid wedi gwrthod taro dêl â’r Gweriniaethwyr.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi ei gyhuddo o gamddefnyddio ei bŵer, a bellach mae achos ei uchelgyhuddiad yn mynd rhagddo.

Mae’r Democratiaid eisiau clywed tystiolaeth oddi wrth John Bolton, cyn-Ymgynghorydd Diogelwch Gwladol yr Arlywydd.

Ond mae’r Gweriniaethwyr wedi ymateb i hynny trwy ddadlau y dylai Hunter Biden, mab cyn-Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, hefyd gael ei alw’n dyst.

Bellach mae’r tad wedi gwrthod y posibiliad hynny’n llwyr. 

Cyhuddiadau a’r Wcráin

Mae’r Democratiaid yn cyhuddo’r Arlywydd o wrthod â rhoi arian cymorth i’r Wcráin er mwyn rhoi pwysau ar y wlad honno i gyhoeddi ymchwiliad i Joe Biden.

Mae’r cyn-Ddirprwy yn gobeithio herio Donald Trump am yr arlywyddiaeth eleni, ac mae’r Arlywydd wedi bod yn honni bod y Democrat yn llwgr.

Roedd Hunter Biden yn aelod o fwrdd cwmni nwy Wcrainaidd pan oedd ei dad yn Ddirprwy Arlywydd ac yn gyfrifol am y berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a’r Wcráin.