Mae awyren wedi plymio o’r awyr yn Awstralia gan ladd y tri pherson oedd arni.

Roedd yr awyren wedi bod yn helpu â’r gwaith o ddiffodd tanau gwyllt, ac roedd pob un o’r rheiny a fu farw yn Americaniaid. 

Gwnaeth swyddogion golli cysylltiad â’r C-130 Hercules ychydig cyn 13.30 (amser lleol) ar dydd Iau (Ionawr 23), ac mae yna ansicrwydd ynghylch yr hyn a achosodd y plymiad. 

Tarodd yr awyren â’r ddaear yn Snowy Mountain yn New South Wales – talaith lle mae yna dros 80 o danau gwyllt. 

Cwmni o Ganada oedd piau’r awyren, ac roedd awdurdodau’r dalaith wedi ei benthyg.