Mae un o ddinasoedd Tsieina wedi atal trafnidiaeth gyhoeddus mewn ymdrech i rwystro firws rhag lledu.

Mae 11 miliwn o bobol yn byw yn Wuhan, a daw’r cam ar drothwy’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Dyma gyfnod o’r flwyddyn pan mae miliynau ledled y wlad yn teithio i weld eu teuluoedd, a bellach mae’r firws wedi lledu i rannau eraill o Tsieina. 

Hyd yma mae 500 achos pendant wedi’u cofnodi, ac mae 17 o bobol wedi marw. Mae pob un farwolaeth wedi digwydd yn Hubei, talaith Wuhan.

Firws yn lledu

Math newydd o firws yw’r 2019-nCoV a than nawr doedd dim achosion ohono wedi cael ei gofnodi ymhlith pobol. 

Mae achosion hefyd wedi’u cofnodi yn yr Unol Daleithiau, Gwlad Thai, Taiwan, Japan a De Corea; ond hyd yma dyw’r mater ddim yn ‘argyfwng rhyngwladol’.