Mae Harvey Weinstein yn y llys yn Efrog Newydd wrth i’r datganiadau agoriadol gael eu cyflwyno.

Mae disgwyl i dystion ddechrau rhoi tystiolaeth heddiw (dydd Mercher, Ionawr 22) hefyd.

Mae’r cynhyrchydd ffilmiau’n wynebu carchar am oes pe bai’n cael ei ganfod yn euog o droseddau rhyw.

Mae dwsinau o fenywod wedi gwneud cyhuddiadau yn ei erbyn, ond dim ond ambell gyhuddiad fydd yn cael sylw yn ystod yr achos.

Mae’r erlynwyr yn honni iddo dreisio dynes mewn gwesty ym Manhattan yn 2013 ac wedi ymosod yn rhywiol ar ddynes arall yn 2006.

Mae ei gyfreithwyr yn dweud bod y menywod wedi cydsynio i unrhyw weithgarwch rhywiol.