Mae prifddinas talaith Newfoundland a Labrador yng Nghanada wedi cyhoeddi stad o argyfwng wrth i storm eira effeithio’r ddinas.
Mae swyddogion yn St John’s wedi gorchymyn busnesau i gau ac wedi atal cerbydau rhag mynd ar y ffyrdd.
Erbyn hyn mae trefi cyfagos Mount Pearl, Paradise, Torbay a Portugal Cove-St Philip’s hefyd wedi cyhoeddi’r gorchymyn.
Mae swyddogion wedi rhybuddio am wyntoedd cryfion ac eira trwchus yn y rhan fwyaf o Newfoundland hyd at ddydd Sadwrn.
Dywedodd Prif Weinidog Canada Justin Trudeau eu bod nhw mewn cysylltiad gyda’r awdurdodau yno ac yn monitro’r storm.
“Ry’n ni’n barod i helpu os oes angen,” meddai ar Twitter.
Mae trigolion wedi cael rhybudd i ddisgwyl 40-75 centimedr o eira ac i baratoi drwy sicrhau bod digon o fwyd a dŵr ganddyn nhw.