Mae cyrff 11 o bobol o’r Wcráin a gafodd eu lladd pan gafodd awyren ei saethu i lawr wedi cael eu cludo’n ôl i’r wlad.

Roedden nhw ymhlith 176 o bobol fu farw ar Ionawr 8 pan gafodd yr awyren ei saethu i lawr ar ei ffordd o Tehran, prifddinas Iran, i Kyiv.

Dywedodd awdurdodau Iran dridiau ar ôl y digwyddiad fod yr awyren wedi cael ei saethu trwy gamgymeriad.

Mae disgwyl i wylnos a gwasanaeth coffa gael eu cynnal.