Mae llosgfynydd yn y Ffilipinas wedi ffrwydro mwy o ludw i’r awyr gyda daeargryn yn creu cracs ar y ffyrdd.

Ac mae llyn cyfagos wedi sychu’n llwyr sy’n arwydd arall bod y llosgfynydd yn ansefydlog.

Mae milwyr a’r heddlu wedi rhwystro pobl rhag sleifio’n ôl i drefi cyfagos.

Does neb wedi marw na chael na chael anaf difrifol, er bod nifer o ffermydd a thai wedi cael eu difrodi.

Mae’r llosgfynydd yn Batangas oddeutu 40 milltir oddi wrth y Brif Ddinas, Manila.