Fe fydd etholiad cyffredinol Iwerddon yn cael ei gynnal ar Chwefror 8.

Mae Leo Varadkar, y prif weinidog, wedi gofyn am ganiatâd ffurfiol i ddiddymu senedd y Dail.

Wrth gyhoeddi’r etholiad, dywedodd Leo Varadkar o adeiladau’r senedd yn Nulyn mai nawr yw’r “amser cywir” i’w gynnal, gan gyfeirio at fargen Brexit a chytundeb Stormont yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n dweud bod sicrhau mandad y llywodraeth yn Iwerddon yn hollbwysig wrth drafod y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, fydd y Gweinidog Iechyd Simon Harris ddim bellach yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder, gan fod disgwyl i honno gael ei chynnal y mis nesaf.

Roedd disgwyl y byddai Leo Varadkar wedi aros tan yr haf cyn cynnal etholiad cyffredinol, ond mae ei blaid dan bwysau i sicrhau cefnogaeth ar gyfer nifer o bolisïau allweddol.

Mae diwedd y senedd hefyd yn golygu terfyn ar gytundeb fesul polisi rhwng Fine Gael a Fianna Fail a gafodd ei sefydlu yn 2016.

Daeth Leo Varadkar yn Taoiseach ar ôl olynu Enda Kenny yn arweinydd Fine Gael yn 2017.