Mae o leiaf chwech o bobol wedi cael eu lladd, ac mae pedwar ar goll, ar ôl i fws gwympo i mewn i lyncdwll yn Tsieina.

Mae oddeutu 1,000 o weithwyr y gwasanaethau brys a 30 o gerbydau ar y safle yn ninas fynyddig Xining.

Mae lluniau camerâu cylch-cyfyng yn dangos pobol yn rhedeg i ffwrdd o’r safle a cherbydau’n ceisio datrys y sefyllfa.