Fe fydd y rheithgor yn achos Harvey Weinstein yn cael ei ddewis yr wythnos hon, wrth i’r cynhyrchydd ffilmiau wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw.

Mae wedi’i gyhuddo o dreisio dynes mewn gwesty ym Manhattan yn 2013 a chyflawni gweithred rywiol ar ddynes arall yn 2006.

Mae dwsinau yn rhagor o honiadau am ei ymddygiad rhywiol nad ydyn nhw’n destun cyhuddiadau, ond mae’n gwadu’r cyfan.

Mae disgwyl i o leiaf un actores Hollywood roi tystiolaeth yn ei erbyn, ac fe allai’r achos bara hyd at fis.

Mae cyfreithwyr Harvey Weinstein yn dadlau bod yr achos yn ei erbyn yn wan.