Dydy eglwys gadeiriol Nôtre Dame ddim wedi cael ei hachub eto, yn ôl arbenigwyr sy’n dweud y gallai’r to gwympo o hyd.

Roedd cryn ddifrod i’r adeilad yn dilyn tân y llynedd wrth iddo gael ei adnewyddu.

Hyd at fis diwethaf, roedd rheithor yr eglwys gadeiriol yn dweud mai cael a chael fyddai hi i achub y strwythur.

Ac fe fydd angen clirio llwch plwm o’r aer cyn y bydd modd cwblhau’r gwaith.

Serch hynny, mae arbenigwyr yn ffyddiog y bydd modd sicrhau canlyniad boddhaol yn y pen draw, ac y bydd modd tynnu’r sgaffaldau oddi ar yr adeilad erbyn canol y flwyddyn cyn i’r gwaith gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf.

Gobaith yr Arlywydd Emmanuel Macron yw gweld y gwaith yn dod i ben yn llwyr cyn Gemau Olympaidd Paris yn 2024.