Mae chwech o bobol wedi’u lladd ac 11 wedi’u hanafu ar ôl i gar eu taro yng ngogledd yr Eidal.
Fe ddigwyddodd yn ardal Lutago ger Bolzano yn rhanbarth Alto Adige toc ar ôl 1 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 5).
Roedd y teithwyr yn ymgasglu i fynd ar fws pan gawson nhw eu taro.
Bu farw’r chwech yn y fan a’r lle, a chafodd y rhai a gafodd eu hanafu eu cludo i ysbytai lleol.
Mae lle i gredu bod y gyrrwr yn yfed a gyrru pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.