Mae o leiaf 53 o bobol wedi marw yn llifogydd a thirlithriadau Indonesia.

Mae glaw monsŵn a lefelau afonydd yn codi wedi boddi nifer o ardaloedd o amgylch y brifddinas Jakarta, gan achosi tirlithriadau sydd wedi boddi o leiaf ddwsin o bobol.

Bu farw nifer o bobol o ganlyniad i gael eu trydanu ac eraill o effeithiau’r tymheredd isel.

Dyma’r llifogydd gwaethaf yn y wlad ers 2007, pan gafodd 80 o bobol eu lladd dros gyfnod o ddeng niwrnod.

Mae’r ymdrechion i symud cyrff ar y gweill, ac mae’r awdurdodau’n dal i chwilio am oroeswyr.

Mae’r awdurdodau’n disgwyl i nifer y meirw godi wrth i dimau achub ei chael hi’n anodd cyrraedd nifer o lefydd.

Mae oddeutu 173,000 o bobol yn methu mynd adref ac wedi cael lloches, a’r disgwyl yw fod rhagor o law i ddod dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.