Mae hanner biliwn o anifeiliaid a phlanhigion wedi eu difa yn y tannau mawr yn Awstralia, yn ôl papur newydd The Independent.

Ar ben hynny, mae’r tannau wedi troi eira Seland Newydd yn ddu.

Mae ecolegwyr ym Mhrifysgol Sydney wedi amcangyfrif bod oddeutu 480 miliwn o greaduriaid wedi eu difa, gan gynnwys 8,000 o eirth bach Koala.

Ofnir bod 10 miliwn acr o dir wedi’i losgi yn nhalaith New South Wales.

Dywed Tracy Burgess, sy’n gwirfoddoli yn Awstralia: “Dydyn ni ddim yn cael gymaint â hynny o anifeiliaid y dod i’n gofal.

“Felly’r gofid yw nad ydyn nhw’n dod gan nad ydyn nhw yno bellach.”