Mae’r Unol Daleithiau wedi lladd un o ffigurau mwyaf amlwg byddin Iran mewn ymosodiad ym maes awyr Baghdad ddydd Gwener (Ionawr 3).

Mae’r ymosodiad ar y Cadfridog Qassem Soleimani yn bygwth cynyddu’r tensiynau yn y rhanbarth gan arwain at wrthdaro pellach rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran a pheryglu lluoedd yr UDA yn Irac, Syria a thu hwnt.

Dywedodd adran amddiffyn yr Unol Daleithiau eu bod wedi lladd y Cadfridog Qassem Soleimani am ei fod yn “cynllwynio i ymosod ar ddiplomyddion yr Unol Daleithiau ac aelodau’r lluoedd yn Irac a thrwy’r rhanbarth.”

Roedd hefyd wedi cyhuddo’r Cadfridog Qassem Soleimani o gymeradwyo’r ymosodiadau ar Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Baghdad yn gynharach yn yr wythnos.

Mae ymgynghorydd i Arlywydd Iran, Hassan Rouhani, wedi rhybuddio’r Arlywydd Donald Trump y bydd Tehran yn dial.

Yn yr ymosodiad yn y maes awyr, cafodd Abu Mahdi al-Muhandis, y dirprwy gadlywydd milwrol yn Irac, hefyd ei ladd ynghyd a phump o swyddogion eraill.

“Peryglus a ffol”

Roedd Donald Trump ar ei wyliau yn Palm Beach, Florida pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Daw’r ymosodiad diweddara wedi misoedd o densiynau rhwng Iran a’r Unol Daleithiau.

Mae’r Seneddwr Democrataidd Richard Blumenthal wedi dweud bod angen i Donald Trump roi eglurhad llawn i’r Gyngres a phobol America gan ddweud nad oedd ganddo’r awdurdod i “ddechrau rhyfel newydd posib.”

Mae nifer o Ddemocratiaid eraill hefyd wedi beirniadu’r ymosodiad, gan ddweud bod penderfyniad Donald Trump yn un “peryglus a ffol.”

Mae pris olew wedi codi’n gyflym led led y byd wedi’r ymosodiad.