Mae daeargryn pwerus wedi taro dwyrain Twrci heddiw, ac mae ofn bod hyd at fil o bobl wedi cael eu lladd.

Mae adroddiadau yn dweud fod adeiladau yng nghanol Van wedi dymchwel, yn ogystal ag yn Ercis, tre gyfagos. Dywedodd maer Ercis, Zulfikar Arapoglu, eu bod nhw angen cymorth meddygol ar frys.

Pentref Tabanli oedd uwchganolbwynt y daeargryn oedd â chryfder o 7.2 ar y raddfa sy’n mesur daeargrynfeydd.

Ym 1999, lladdwyd 18,000 o bobl gan ddau ddaeargryn yng ngogledd-orllewin Twrci.