Mae awdurdodau Japan wedi cynnal cyrch ar gartref cyn-Gadeirydd cwmni ceir Nissan, Carlos Ghosn.
Mae’r cyn-bennaeth yn wynebu cyhuddiadau o gamddefnydd arian, a mis diwethaf ar ol iddo gael ei ryddhau ar fechniaeth, bu iddo ffoi i Libanus.
Yn ol Carlos Ghosn penderfynodd adael Japan oherwydd dyw e ddim yn credu bod sustem farnwrol y wlad yn deg, ac mae eisiau osgoi cael ei “erlyn er dibenion gwleidyddol”.
Mae yna ansicrwydd ynghylch sut y llwyddodd a dianc o Japan, a gan ei fod wedi cyrraedd Libanus mewn modd cyfreithiol mae’r wlad honno wedi dweud na fyddan nhw’n gweithredu yn ei erbyn.
Mae gan y cyn-gadeirydd ddinasyddiaeth Ffrengig, Libanaidd, a Brasiliaidd.