Mae llywodraeth dros dro newydd Libya wedi cyhoeddi bod eu gwlad yn wlad rhydd o flaen miloedd o bobl yn Benghazi, y ddinas lle ddechreuodd y gwrthryfel yn erbyn Gaddafi.

Roedd degau ar filoedd o bobl wedi dod ynghyd i wrando ar araith arweinydd y Cyngor Trawsnewidiol Newydd, Mustafa Abdul Jalil.

Diolchodd Abdul Jalil i’r rhai oedd wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel, a dywedodd y byddai’r Libya newydd yn cymryd cyfraith Islam fel ei sail.

Dywedodd hefyd ei fod yn dymuno buddugoliaeth i’r gwrthryfelwyr yn eu brwydr yn erbyn llywodraethau Syria ac Yemen.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, wedi cyfarch “buddugoliaeth hanesyddol” Libya, ac wedi annog y wlad i osgoi dial.