Mae’r Pab Ffransis wedi ymddiheuro am daro llaw dynes oedd yn ceisio’i dynnu tuag ati yn Sgwâr San Pedr.

Fe gollodd ei dymer wrth iddo gerdded yn y Sgwâr, pan wnaeth y ddynes afael yn ei law o’r tu ôl i fariau diogelwch a’i dynnu tuag ati.

Fe wnaeth e ddweud rhywbeth wrthi cyn taro’i llaw a cherdded i ffwrdd yn grac.

Wrth ymateb, fe ddywedodd ei fod e hefyd yn euog o fod yn “ddiamynedd weithiau”, a’i fod wedi “gosod esiampl ddrwg”.