Mae nifer fawr o anifeiliaid wedi cael eu lladd yn dilyn tân mewn sŵ yn yr Almaen.

Mae lle i gredu mai tân gwyllt oedd wedi achosi’r tân yn sŵ Krefeld yng ngorllewin yr Almaen ger y ffin â’r Iseldiroedd.

Ond dydy’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau mai tân gwyllt oedd achos y tân.

Cafodd adeilad ei ddinistrio, a’r holl anifeiliaid eu lladd, gan gynnwys nifer o fathau gwahanol o epaod, ystlumod ac adar.

Ond mae Kidogo y gorila a’i deulu’n ddiogel, yn ôl llefarydd.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae’r sŵ ynghau am y tro.