Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi achub 19 o ffoaduriaid, gan gynnwys dau blentyn, o gwch bysgota wrth iddyn nhw geisio croesi’r Sianel.

Daw hyn ar ôl i fwy na 40 o bobol gael eu hachub ar ddwy ochr y Sianel, yn Ffrainc a gwledydd Prydain, fore dydd Sul (Rhagfyr 29).

Yn ddiweddarach, cafodd 16 dyn, dynes a dau o blant eu hachub tua 10.30yh nos Sul a’u cludo i borthladd Dunkirk yn Ffrainc.

Dywed yr awdurdodau yn Ffrainc bod y ffoaduriaid yn ddiogel ond maen nhw wedi rhybuddio am y peryglon o groesi’r Sianel oherwydd gwyntoedd cryfion.